Y mis hwn, rydym wrth ein bodd yn crynhoi ein gweithgareddau dathlu wrth i ni nodi pedair blynedd ers sefydlu ArloesiAber, gan fynd heibio carreg filltir arwyddocaol wrth feithrin arloesedd o’n cartref yng Nghymru.
Roedd yn bleser gennym lansio’r rhaglen LEAP newydd yn swyddogol, menter arloesol a gynlluniwyd i cefnogi entrepreneuriaid gyda’r adnoddau, y fentoriaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen i drawsnewid eu syniadau gweledigaethol yn fentrau llwyddiannus.
Mae’r rhaglen hon yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i feithrin y genhedlaeth nesaf o arloeswyr a sbarduno twf economaidd o fewn ein cymuned a ledled y DU, a amlygwyd gan ein pedwar stat allweddol i nodi pedair blynedd.
Lansio cronfa entrepreneuriaid bwyd newydd ar ben-blwydd y campws arloesi
Rydym yn falch i lansio rhaglen newydd o gymorth ar gyfer busnesau newydd ym maes bwyd a bwyd anifeiliaid.
Bydd LEAP, sydd yn cael ei ariannu gan Gronfa Etifeddiaeth Dick Lawes, yn cefnogi mentrau sy'n ceisio helpu darpar entrepreneuriaid.
Bydd yn cefnogi hyd at wyth prosiect yn 2024-2025 ym meysydd amaethyddiaeth, bwyd dynol a maeth - gan ganolbwyntio yn benodol ar brosesau llaeth - o'r fferm i'r fforc, a maeth anifeiliaid.
Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i gynnig cymorth datblygu technegol a mentora i brosiectau dethol, gyda pecyn cymorth rhwng £30,000 a £50,000.
Mae ceisiadau yn cau am 5pm ar 8 Hydref 2024 - peidiwch â cholli allan!
Ar 24 Medi 2024, lansiodd ArloesiAber y rhaglen LEAP mewn digwyddiad a fynychwyd gan dros chwe deg o randdeiliaid a chydweithredwyr.
Amlygodd Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber, Dr Rhian Hayward MBE ein pedair blynedd o gyflawniadau a chyhoeddodd y fenter LEAP. Cadarnhaodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ei gefnogaeth, tra bu Nic Shilton o Llywodraeth Cymru a Nick Basset o'r BBSRC yn trafod tirwedd arloesi ehangach y DU.
Anrhydeddodd Jane a David Neville o'r Betty Lawes Foundation, etifeddiaeth Dick Lawes, gan gyflwyno copi wedi’i lofnodi o “Challenging Dairy Frontiers” i Dr Hayward.
Nod y rhaglen LEAP yw gyrru entrepreneuriaeth, creu effeithiau diriaethol, meithrin cydweithio, denu buddsoddiad pellach a chefnogi mentrau newydd.
Blog: Dyfeisio, Profi, Dilysu: Gwasanaethau Ymchwil a Datblygu Ar Flaen y Gad yn ArloesiAber
Mae ArloesiAber yn cynnig amrywiaeth drawiadol o wasanaethau a chyfleusterau technegol a gynlluniwyd i gefnogi ymchwil a datblygu ar draws amrywiol ddiwydiannau, gan gynnwys biotechnoleg, gwyddor bwyd, a chemeg ddadansoddol.
Darllenwch fwy am y gwasanaethau a'r galluoedd sydd ar gael ar gyfer eich ymchwil a datblygu.
Rydym yma i wneud datblygu cynnyrch a thwf busnes mor ddi-ffrithiant a di-boen â phosibl. Cysylltwch â ni gydag unrhyw ymholiadau neu i drafod unrhyw bryderon sydd gennych. Mae croeso i chi rannu'r e-bost hwn ag unrhyw un yn eich rhwydwaith a allai fod yn ddefnyddiol yn eich barn chi. Gall tanysgrifwyr newydd ymuno â'n rhestr bostio trwy glicio yma.
Cadwch mewn cysylltiad â ni yn ArloesiAber drwy anfon e-bost atom, neu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol isod.